#

 

 

 

 


Rhif y ddeiseb: P-05-697

Teitl y ddeiseb: 45,000 o Resymau Pam bod ar Gymru Angen Strategaeth ar Ddementia

Testun y Ddeiseb: Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Gymdeithas Alzheimer's, wedi iddi gasglu 5,861 o lofnodion ar wefan arall ar gyfer e-ddeisebau.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i strategaeth ar ddementia sy’n gwella bywydau pobl sy’n byw â dementia yng Nghymru.

Amcangyfrifir bod yna 45,000 o bobl yn byw â dementia yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae llai na 50 y cant ohonynt wedi cael diagnosis ffurfiol.   Mae cael diagnosis o ddementia yn grymuso pobl i wneud penderfyniadau am y gofal a’r gefnogaeth y maent yn eu cael; mae’n agor y drws iddynt o ran cael mynediad at wasanaethau a meddyginiaeth, lle y bo angen.

Fodd bynnag, hyd yn oed yn achos y rheiny sydd wedi cael diagnosis, mae'n debygol iawn nad ydynt wedi cael y wybodaeth a’r gefnogaeth y mae arnynt eu hangen er mwyn byw’n dda â dementia.    Ni chafodd 1 o bob 10 o bobl â dementia yng Nghymru unrhyw gefnogaeth o gwbl yn y flwyddyn gyntaf ar ôl iddynt gael diagnosis. Felly, bu rhaid iddynt ymdopi â’u diagnosis ar eu pen eu hunain. Mae pobl sy’n byw â dementia yng Nghymru yn llai tebygol o gael diagnosis ac yn llai tebygol o gael mynediad at gymorth ar ôl cael diagnosis na’r rheiny sy’n byw yng ngweddill y Deyrnas Unedig.   Mae’n rhaid i'r sefyllfa hon newid.

Rydym am i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth ar ddementia i Gymru--strategaeth sy’n dangos ymrwymiad i wella cyfraddau diagnosis ac sy’n sicrhau’r mynediad at wasanaethau lleol a’r ansawdd gofal y mae pobl sy’n byw â dementia yn eu haeddu.

 

Y cefndir

Yn ôl Cymdeithas Alzheimer's, mae gan un o bob pump o bobl yng Nghymru aelod agos o'r teulu neu ffrind sydd â dementia. Ar hyn o bryd, mae tua 45,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia. Rhagwelir y bydd y ffigur hwn yn codi'n gyson dros y degawdau nesaf.

O holl wledydd y DU, Cymru sydd â'r gyfradd ddiagnosis isaf ym maes dementia. Dengys y ffigurau diweddaraf (2015) mai dim ond 43.4 y cant o'r rheiny sy'n byw gyda dementia yng Nghymru sydd wedi cael diagnosis. Mae cyfraddau diagnosis yn amrywio ledled Cymru: mae'r gyfradd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn 49.5 y cant, ac mae'r gyfradd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn 37.2 y cant.

Mae Cymdeithas Alzheimer's yn datgan bod pobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru yn llai tebygol o gael diagnosis ac yn llai tebygol o gael mynediad at gymorth ar ôl cael diagnosis na phobl sy'n byw gyda dementia yng ngweddill y DU. Canfu ymchwily Gymdeithas mai ond 58% o bobl â dementia sy'n dweud eu bod yn byw yn dda.

Croesawodd Cymdeithas Alzheimer's yr ymrwymiad a wnaed yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i greu cynllun strategol ar gyfer dementia (gweler isod), gan nodi'r angen dybryd am strategaeth newydd sydd â llinellau atebolrwydd clir ac adnoddau digonol. Fodd bynnag, hoffai'r Gymdeithas weld Llywodraeth Cymru yn mynd ymhellach mewn rhai meysydd. Mae'n honni nad yw targed o 50 y cant o ran y gyfradd ddiagnosis yn ddigon uchelgeisiol. Mae am weld ymrwymiad i gynyddu'r gyfradd ddiagnosis ym mhob bwrdd iechyd i o leiaf 75 y cant erbyn 2021, ac mae am i'r byrddau iechyd ymrwymo i gynyddu cyfraddau diagnosis yn eu hardaloedd o leiaf 5 y cant bob blwyddyn. Mae Cymdeithas Alzheimer's yn nodi hefyd y byddai'r cynllun i gynyddu nifer y gweithwyr ym maes cymorth dementia ond yn arwain at greu tua 30 o swyddi ychwanegol. Ym marn y Gymdeithas, mae angen dros 300 o weithwyr cymorth ychwanegol.  Mae am i bawb sydd â diagnosis o ddementia gael mynediad at gynghorydd dementia neu weithiwr proffesiynol tebyg, a hynny er mwyn sicrhau eu bod yn cael cymorth ystyrlon yn dilyn diagnosis.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn un o'n herthyglau ar faterion o bwys, sef: Cysgod mawr dementia (Mai 2016).

 

Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Gweledigaeth Genedlaethol Cymru ar Ddementia yn 2011.

Ym mis Ebrill 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei huchelgais i Gymru fod yn genedl ‘sy’n deall dementia’. Pennodd darged i gynyddu’r gyfradd ddiagnosis i 50 y cant, a chyhoeddodd £1 miliwn o gyllid, gan gynnwys arian ar gyfer 32 o weithwyr cymorth gofal sylfaenol newydd, a phedair nyrs cyswllt gofal sylfaenol newydd er mwyn darparu hyfforddiant i staff.

Ym mis Chwefror 2016, lansiodd Llywodraeth Cymru yr ymgyrch GWNA FE nawr i leihau dy risg o gael dementia, er mwyn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r camau y gall pobl eu cymryd i leihau’r risg i’w hiechyd.  Mae’n awgrymu y gallai byw bywyd iach leihau’r risg o ddementia 60 y cant.

Bu Llywodraeth ddiwethaf Cymru yn ymgynghori hefyd ar Gynllun Cyflawni tair blynedd newydd Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, sy’n nodi bod dementia yn flaenoriaeth allweddol.  Mae’r Cynllun Cyflawni yn cynnwys ymrwymiad i lunio cynllun strategol ar ddementia erbyn mis Rhagfyr 2016. Mae papur y Gweinidog i'r Pwyllgor yn cadarnhau y bydd cynllun strategol ar gyfer dementia yn cael ei gyflwyno ar gyfer y cyfnod rhwng 2017 a 2019, ac y bydd grŵp gorchwyl a gorffen (a fydd yn cynnwys Cymdeithas Alzheimer's Cymru) yn cael ei sefydlu i ddatblygu'r strategaeth.

Mae Fframwaith Canlyniadau'r GIG (2016-17) diweddaraf yn cynnwys mesurau newydd ar hyfforddiant dementia. Yn awr, bydd Llywodraeth Cymru yn monitro canran y staff a gyflogir gan y GIG sydd wedi'u hyfforddi i lefel briodol ym maes gofal dementia ac sy'n ymgysylltu â'r cyhoedd, a hynny yn erbyn targed newydd, sef 75 y cant o'r gweithlu.

 

Camau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn ddiweddar, cynhaliwyd nifer o ddadleuon a gofynnwyd nifer o gwestiynau yn ymwneud â'r mater hwn yn y Cyfarfod Llawn. Ar 5 Gorffennaf 2016, dywedodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd y cynllun gweithredu strategol newydd ar ddementia yn ei le 'erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon.'

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.